Disgleiria fore wawr
Dysgleiried bore wawr
Disgleiriodd boreu wawr
Dysgleiria foreu wawr

(Cyflawn waredigaeth)
  Dysgleiria foreu wawr,
    'Nol nos o faith barhad,
  Datguddia imi'n awr,
    Ryw ran o'r hyfryd wlad,
Lle rhed afonydd dwyfol ryw,
Fel môr didrai dros Sïon wiw.

  A thyna'r boreu ddydd,
    Caf finnau seinio cân,
  Ar ol caethiwed maith,
    Am waredigaeth lân;
O hyfryd ddydd! pa bryd y daw?
'Rwy'n dysgwyl fod y wawr gerllaw.

  Dysgleiried dwyfol ras
    Dros holl derfynan'r byd,
  Diflaned pechod câs
    O gyrau hwn i gyd:
Ac uned pob creadur byw
Ar nefol dôn i foli Duw.

             - - - - -
(Ymmorphwysiad ar addewid Duw)
  Dysgleiria foreu wawr
    'Rol nos o faith barhâd;
  Dadguddia i ni'n awr
    Ryw ran o'r hyfryd wlad,
Lle rhed afonydd dwyfol ryw
Fel môr didrai dros Sïon wiw.

  A heibio'r dywell nos,
    Fe ffy cymylau'r nen;
  Fe ddaw'r addewid wir
    A'i geiriau pur i ben:
Fe gwyd yr haul,
    cawn wel'd yn glir,
Ein hetifeddiaeth cyn b'o hir.

  Wel, ymgysura'n awr
    Fy enaid ofnus gwan,
  Sy'n cwrddyd bob rhyw awr
    A rhwystrau yn mhob man;
Mae Duw o'm plaid, caf cyn b'o hir
Wel'd fy holl feiau'n colli tir.

               - - - - -
(Gweddi am wyneb Duw)
1,2,3,4,5,(6);  1,4.
  Disgleiria, foreu wawr,
    'Rol nos o faith barhâd;
  Dadguddia i mi'n awr
    Ryw ran o'm hyfryd wlad,
Lle rheda cariad pur i maes,
Fel môr di-drai, dros maesydd gras.

  Mae dyddiau'r Aipht yn faith,
    Mae'r tywyllwch yno'n hir;
  A dyrys iawn yw'r daith
    I'r Ganaan nefol, bur:
O! tyr'd yn glau, a dadglo'r bedd,
Byrhâ yr oriau sy'n dwyn hedd.

  'Rwy'n blino'r funyd hon
    Dan draed pob gelyn cas;
  Mi roddwn fyd o'r bron
    Am deimlo nerth dy ras:
Dim ond dy wel'd dros funyd awr
A'm gwna yn fwy na chongcrwr mawr.

  'Rwyf yno wrth fy modd
    Ond edrych ar dy wedd;
  Fy nghalon galed dodd
    Wrth brofi o dy hedd:
Ti wyt fy oll, fy Arglwydd mawr,
O fewn y nef ac ar y llawr.

  Aed goleu'r dydd yn nos,
    Teyrnased nos o'r bron;
  Doed moroedd mawrion dros
    Holl wyneb maith y don;
Aed y greadigaeth faith i'w bedd -
Mae'n well i mi na cholli'th hedd.

  Pan denir fi o'r ffordd,
    Gan elyn îs y rhôd,
  Yn fuan tyn fi'n ol
    Yn agos at dy droed;
Dos â fi 'mlaen, mae'r rhwystrau'n faith,
A phell i'r llesg
    yw pen y daith.

                - - - - -

  Disgleiriodd boreu wawr
    'Nol nôs o faith barhâd,
  Dadguddwyd i ni 'nawr,
    Ryw ran o'r hyfryd wlad,
Lle rhed afonydd dwyfol ryw
Fel môr didrai dros Seion wiw.

  Ffown bellach oll ar frys,
     Edrychwn yn y bla'n;
  Mae golwg hyll yn ol
    Sodoma sydd ar dân.
Ymlaen, ymlaen, i'r mynydd draw
O tyn fi Iesu yn dy law.

  Mae'r ffordd yn awr yn rhydd,
    Agorwyd hi o bob tu;
  O ddyfnder daear lâs,
    I uwchder nefoedd fry;
O dring, O dring, fy enaid mwy
Mae nerth i'w gael
      ym marwol glwy.

  Pan dynno angau glâs
    Y tŷ o bridd i lawr,
  A gorfod canu'n iach,
    I enwau bach a mawr,
Enw fy Nuw fydd mwy pryd hyn
Na holl gysuron brô a bryn.

                - - - - -
(Ymorphwysiad yr enaid ar harddiant Crist)
  Disgleiria fore wawr,
    'Nol nos o faith barhad;
  Datguddia i mi'n awr
    Rhyw ran o'r hyfryd wlad,
Lle rhed afonydd dwyfol ryw,
Fel môr didrai dros Sion wiw.

  O Canaan hyfryd wiw,
    Addawyd i myfi;
  Cartrefle bur fy Nuw,
    Uwch y ffurfafen fry;
Mi ddof, mi ddof i'r lann ryw awr,
Er maint sydd am fy nghadw i lawr.

  Bydd di yn noddfa bur,
    I'm henaid ddydd a nos;
  Fy holl ddiddanwch gwir,
    Fo'n tarddu o
          waed y groes:
Distewi wnâf, mae trysor mwy
Na fedd y byd mewn marwol glwy'.

  Fy holl elynion hy,
    A gawsant farwol glwy'
  Ar beu Calfaria fry,
    Pa'm 'r ofnai bellach mwy?
Mae haeddiant gwaed yn uwch ei gri
Na'm holl elynion mawr eu rhi'.

  Wel, ymgysura'n awr
    Fy enaid eiddil gwan,
  Sy'n cyffwrdd bob rhyw awr,
    A rhwystrau y'mhob man:
Mae Duw o'm plaid, câf cyn ho hir
Wel'd meiau oll yn colli tir.

             - - - - -
(Cyflawnder yr Iachawdwriaeth)
  Dysgleiria fore wawr,
    'Nol nos o faith barhad,
  Datguddia i mi yn awr,
    Ryw ran o'm hyfryd wlad;
Lle rhedo cariad pur i maes,
Fel mor di drai dros feusydd gras.

  O ffynnon fawr o hedd,
    O anchwiliadwy fôr,
  Sy'n cynnwys ynddo ei hun,
    Ryw annherfynol 'stor
Ti bia'r clod, wel cymer e',
Trwy'r ddaear,
      uffern lawr, a'r ne'.

  Noddfa pechadur trist,
    Dan bob drylliedig friw,
  A phwys euogrwydd llym,
    Yn unig yw fy Nuw;
'Does enw i'w gael, o dan y nef,
Yn unig ond ei enw ef.

  Pan ddelo'r hyfryd ddydd,
    I mi gael gwel'd ei wedd,
  Ac yfed ffrydiau pur,
    O'i annherfynol hedd:
'Mhlith lluoedd maith
      cwmpeini'r nen,
Mi gana'r cariad fu ar y pren.

          - - - - -
(Dihangfa rhag Pechod)
  Disgleiria fore wawr,
    'Rôl nos o faith barhad;
  Datguddia i ni'n awr
    Ryw ran o'r hyfryd wlad
Lle rhed afonydd dyfroedd byw,
Fel grisial, dros breswylfa Duw.

  Wel, ymgysura mwy,
    Fy enaid ofnus gwan,
  Sy'n cwrddyd bob rhyw awr,
    Â rhwystrau ymhob man;
Mae Duw o'th blaid,
      cei cyn bo hir
Weld dy holl feiau'n colli tir.

           - - - - -
(Deisyf Golwg ar y Wlad Well)
  Dysgleiried bore wawr
    'Rol nos o faith barhad,
  Datguddier ini'n awr
    Ryw ran o'r hyfryd wlad,
Lle rhed afonydd dwyfol ryw
Fel môr didrai dros Seion wiw.

  Nesâu mae'r hyfryd ddydd
    Cawn seinio'r newydd gân,
  Ar ol caethiwed maith,
    Am waredigaeth lân,
Yn mysg y llu sydd fel y wawr,
Yn mhell o wlad y cystudd mawr.
William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
Alexandria (alaw Ellmynig)
Alun (J A Lloyd 1815-74)
  Birmingham (<1829)
Dolgellau (alaw Gymreig)
Gwladys (alaw Gymreig)
Haddam (Lowell Mason 1792-1872)
Kedron (Henry Lawes 1596-1662)
St George's Chapel (<1875)
St Godric (J B Dykes 1823-76)
Tyndal (E Stephen [Tanymarian] 1822-85)

gwelir:
  A heibio'r dywell nos
  Bydd di yn ymborth pur
  Caersalem dinas hedd
  Caned a welodd y wawr
  Gwynfyd y dydd y daeth
  Mae caru Mhrynwr mawr
  Mae haeddiant dwyfol waed
  Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
  Nesâu mae'r hyfryd ddydd
  Ni chollwyd gwaed y groes
  Ni ddiffydd cariad rhad
  Ni phery ddim yn hir
  O dychwel Arglwydd mawr
  O nefol addfwyn Oen
  Wel ymgysura'n awr
  Yr unig noddfa bur

(Full deliverance)
  Shine, thou morning dawn,
    After a night of long continuing,
  Reveal to me now,
    Some part of the lovely land,
Where run rivers of a divine sort,
Like an unebbing sea over worthy Zion.

  And there is the morn of day,
    I will get to sound a song,
  After an extensive captivity,
    About pure deliverance;
O lovely day! when shall it come?
I am expecting that the dawn is at hand.

  Let divine grace shine
    Across all the borders of the world,
  Let hated sin vanish
    From all its corners:
And let every living creature unite
In a heavenly tune to praise God.

                 - - - - -
(Resting on the promise of God)
  Shine, thou morning dawn
    After a night of long continuing;
  Reveal to us now
    Some part of the lovely land,
Where run rivers of a divine sort
Like an unebbing sea over worthy Zion.

  The dark night shall pass,
    The clouds of the sky shall flee;
  The true promise shall come
    With its pure words to fulfilment:
The sun shall rise,
    we shall get to see clearly,
Our inheritance before long.

  See, comfort now
    My fearful, weak soul,
  Which is meeting every kind of hour
    With obstacles in every place;
God is on my side, I shall get before long
To see all my faults losing ground.

                 - - - - -
(Prayer for the face of God)
1,2,3,4,5,(6);  1,4.
  Shine, thou morning dawn,
    After a night of long continuing;
  Reveal to me now
    Some part of my lovely land,
Where pure love runs out,
Like an unebbing sea, over fields of grace.

  The days of Egypt are extensive,
    The darkness there is long;
  And very troublesome is the journey
    To the heavenly, pure Canaan:
O come quickly, and unlock the grave!
Shorten the hours which are bringing peace.

  I am weary this minute
    Under the feet of every hated enemy;
  I would walk a world completely
    To feel the strength of thy grace:
Only to see for a minute of an hour
Would make me more than a great conqueror.

  There I will be satisfied
    Only to look on thy face;
  My hard heart shall melt
    On experiencing thy peace:
Thou art my all, my great Lord,
Within heaven and on the earth.

  Let the light of the day become night,
    Let the night reign completely;
  Let great seas come over
    The whole vast face of the wave;
Let the vast creation go to the grave -
It is better for me than losing thy peace.

  When I am to be drawn from the road,
    By an enemy under the sky,
  Soon draw me back
    Near to thy foot;
Bring me on, the obstacles are vast,
And distant to the feeble
    is the journey's end.

                - - - - -

  A morning dawn shone
    After a long continuing night,
  Revealed to us now,
    Is some part of the delightful land,
Where run rivers of a divine kind
Like an unending sea across worthy Zion.

  Let us flee henceforth hurriedly,
    Let us look forwards;
  There is an ugly scene behind
    Of Sodom which is on fire.
Onward, onward, to yonder mountain
O draw me, Jesus, in thy hand.

  The way is now free,
    It was opened on every side;
  From the depth of blue-green earth,
    To the height of heaven above;
O climb, O climb, my soul henceforth
There is strength to be had
      in a mortal wound.

  When utter death pulls
    The house of soil down,
  And one must bid farewell
    To names small and great,
The name of my God shall be greater then
Than all the comforts of vale and hill.

                - - - - -
(The rest of the soul on the merit of Christ)
  Shine, thou morn of dawn,
    After a vast-enduring night;
  Reveal to me now
    Some part of the delightful land,
Where rivers of a divine kind run,
Like an unebbing sea over worthy Zion.

  O delightful worthy Canaan,
    Promised to me;
  The pure home of my God,
    Higher than the firmament above;
I shall come, I shall come up some hour,
Despite how much wants to keep me down.

  Be thou a pure refuge,
    For my soul day and night;
  All my true comfort,
    Be springing from
          the blood of the cross:
Be silent I shall, there is more treasure
Than the world possesses in a mortal wound.

  All my proud enemies,
    Shall get a mortal wound
  On the summit of Calvary above,
    Why should I fear any more?
The merit of the blood has a louder cry
Than all my enemies of great number.

  See, take comfort now
    My feeble, weak soul,
  Which is meeting every kind of hour,
    With frustrations in every place:
God is on my side, I shall get before long
To see all my faults losing ground.

                - - - - -
(The Fullness of Salvation)
  Shine, thou morn of dawn,
    After a vast-enduring night,
  Reveal to me now,
    Some part of my delightful land;
Where pure love runs out,
Light an unebbing sea over fields of grace.
  
  O great fount of peace,
    O unsearchable sea,
  Which contains in itself,
    Some unbounded store
To thee belongs the praise, so take it!
Throughout the earth,
      hell below, and heaven.

  A refuge of a sad sinner,
    Under every breaking bruise,
  And the weight of sharp guilt,
    Is my God alone;
'There is no name to be had, under heaven,
But in his name alone.

  When the delightful day comes,
    For me to get to see his countenance,
  And drink pure streams,
    Of his boundless peace:
Amongst the vast hosts
      of the company of heaven,
I will sing the love that was on the tree.

                - - - - -
(Escape from Sin)
  Shine, thou morn of dawn,
    After a vast-enduring night,
  Reveal to us now
    Some part of my delightful land
Where rivers of living waters run,
Like crystal, over the residence of God.

  See, take comfort henceforth
    My fearful, weak soul,
  Who art meeting every kind of hour,
    With frustrations in every place;
God is on thy side,
      thou shalt get before long
To see all thy faults losing ground.

                 - - - - -
(Petition for a View over the Better Land)
  Let the morning dawn shine
    After a long-enduring night,
  Let some part of the delightful land
    Be revealed to us now,
Where rivers of a divine kind run
Like an unebbing sea over worthy Zion.

  Approaching is the delightful day
    When we may sound the new song,
  After long captivity,
    After complete deliverance,
Amongst the host that is like the dawn,
Far from the land of the great tribulation.
tr. 2017,22 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~